Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023
Manage episode 378662004 series 1301561
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae’r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda’r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi’n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu’n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu
Amlwg Prominent
Cyhoeddi Announce
Ymennydd Brain
Yn gyfangwbl Completely
Tinc Tone
Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor
Mae’n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on’d yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a’r canwr Johnny Tudor, ac roedd e’n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i’w holi. Dyma fe gydag un stori fach o’i yrfa... Diddanwr Entertainer
Dynwared To impersonate
Llwyfan Stage
Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod
A dw i’n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o’i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi’n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf……
Dinbych y Pysgod Tenby
Bardd Poet
Hala Treulio
Dim syndod No surprise
Yn syth bin Straight away
Unigryw Unique
Haenau Layers
Tirwedd Landscape
Llanw Tide
Cyfnewidiol Changeable
Awen Muse
Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall
Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o’r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution
Lliwddall Colour blind
Yn ôl According to
Gwyddonwyr Scientists
Cywiro eu golwg Correct their eyesight
Llachar Bright
Sefyll mas To stand out
Cyfoethog Rich(colour)
Ffug Fake
Pigion Dysgwyr – 1973
Wel newyddion da i‘r rhai sy’n lliwddall on’d ife – mae’n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae’r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri’n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time
Hogiau Bechgyn
Tywyll Dark
Agwedd Attitude
Eithafol Extreme
Naws Mood
Anhygoel Incredible
Pigion Dysgwyr – Max Boyce
Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina’n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a’r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O’Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy’n ei adnabod e’n dda…. Cymuned Community
Sgwrs ddifyr An interesting conversation
Ymwybodol Aware
Pwysigrwydd Importance
371 حلقات