Artwork

المحتوى المقدم من BBC and BBC Radio Cymru. يتم تحميل جميع محتويات البودكاست بما في ذلك الحلقات والرسومات وأوصاف البودكاست وتقديمها مباشرةً بواسطة BBC and BBC Radio Cymru أو شريك منصة البودكاست الخاص بهم. إذا كنت تعتقد أن شخصًا ما يستخدم عملك المحمي بحقوق الطبع والنشر دون إذنك، فيمكنك اتباع العملية الموضحة هنا https://ar.player.fm/legal.
Player FM - تطبيق بودكاست
انتقل إلى وضع عدم الاتصال باستخدام تطبيق Player FM !

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 19eg 2022

18:41
 
مشاركة
 
Manage episode 326045002 series 1301561
المحتوى المقدم من BBC and BBC Radio Cymru. يتم تحميل جميع محتويات البودكاست بما في ذلك الحلقات والرسومات وأوصاف البودكاست وتقديمها مباشرةً بواسطة BBC and BBC Radio Cymru أو شريك منصة البودكاست الخاص بهم. إذا كنت تعتقد أن شخصًا ما يستخدم عملك المحمي بحقوق الطبع والنشر دون إذنك، فيمكنك اتباع العملية الموضحة هنا https://ar.player.fm/legal.

Stiwdio Sharon a Saran Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa? Gwobr - Award Mewn gwirionedd - In reality Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl Disgyblaethau - Disciplines Llefain - Crïo Rhwystro - To obstruct Ei hargymell hi - To recommend her Llawfeddyg - Surgeon Bregus - Vunerable O fy herwydd hi - Because of me Cynyrchiadau - Productions

Saran Morgan yn falch iawn o ddilyn ôl-traed ei mam yn tydy?

Aled Hughes a Toda Sgwrs o'r archif sy nesa, o 2020, pan brofodd Toda Ogunbanwo a'i deulu hiliaeth ym mhentre Penygroes, Gwynedd, pan gafodd swastika ei beintio ar ddrws garej eu cartre. Aled Hughes fuodd yn sgwrsio efo Toda. Profi - To experience Hiliaeth - Racism Blin - Angry Derbyniol - Acceptable Ymddiheuro - To apologise Galwad - A calling Gweinidog - Minister Dallt - Deall Plentyndod - Childhood

Profiad ofnadwy o hiliaeth yn fan'na i deulu Toda ym Mhenygroes Gwynedd.

Nant Gwrtheyrn Pedwardeg mlynedd yn ôl mi gyrhaeddodd y criw cynta o ddysgwyr Cymraeg Nant Gwrtheyrn. Ond lle mae'r dysgwyr rheini rŵan? Mae Wyn Roberts, rheolwr cyfathrebu a marchnata'r Nant, wedi dod o hyd i un o'r tiwtoriaid cynta, ond rŵan mae o eisiau cysylltu efo'r dysgwyr gwreiddiol...... Cyfathrebu a marchnata - Communications and marketing Hogyn - Bachgen Pentref chwarelyddol - A quarrying village Atgyfodi - Resurrect Y diweddar - The late Yn uniongyrchol - Directly Hel atgofion - To reminisce

Felly os dach chi'n nabod rhywun oedd yn un o'r dysgwyr gwreiddiol cysylltwch â Wyn yn y Nant.

Beti a Dai Jones Buodd Dai Jones, Llanilar farw fis Mawrth eleni a chollodd Cymru un o'i chymeriadau mwya lliwgar. Buodd Dai ar nifer o raglenni Cymraeg ar S4C ac ar Radio Cymru gan gynnwys Sion a Sian, Cefn Gwlad ac Ar Eich Cais. Mi gaethon ni gyfle'r wythnos diwetha i glywed rhaglen arbennig, efo Beti George yn sgwrsio efo Dai yn 2002, a dyma i chi flas ar y sgwrs... Tafodiaith - Dialect Gwybyddus - Familiar Rhaff - Rope Llacio - To loosen Llenwi - To fill Mor dynn - So tight Ar ei liniau - On his knees Lan - i fyny Cynhyrfu - To agitate

Y diweddar Dai Jones oedd hwnna'n sôn wrth Beti George am rai o'i anturiaethau.

Dros Ginio Dyfan ac Arfon Gwilym Dau frawd oedd y Ddau Cyn Dau fuodd yn siarad efo Alun Thomas ar Dros Ginio pnawn Llun sef yr actor Dyfan Roberts a'r canwr gwerin, Arfon Gwilym. Dyma nhw'n sôn am eu magwraeth... Anturiaethau - Adventures Awgrymu - To suggest Telynores - Harpist (female) Celfyddydau - Arts Anochel - Inevitable Dylanwadau - Influences Diwylliant - Culture Roedd bri ar y canu - Singing was popular Anogaeth - Encouragement Adrodd - Recitation

Bach o hanes y ddau frawd Dyfan Roberts a Arfon Gwilym ar Dros Ginio.

Gwlad yr Ia Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Alaw Edwards o Drefriw, Llanrwst sy'n byw ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ. Mae Alaw newydd ddechrau gweithio yno fel au pair ac mae hi'n byw mewn pentre o'r enw Suðureyri, pentre pysgota bach yng ngogledd gorllewin yr ynys. Pam dewisodd fynd yno i weithio tybed? Gwlad yr Iâ - Iceland Argraff - Impression Agwedd - Attitude Penodol - Definite

  continue reading

352 حلقات

Artwork
iconمشاركة
 
सभी एपिसोड

×
 
Loading …

مرحبًا بك في مشغل أف ام!

يقوم برنامج مشغل أف أم بمسح الويب للحصول على بودكاست عالية الجودة لتستمتع بها الآن. إنه أفضل تطبيق بودكاست ويعمل على أجهزة اندرويد والأيفون والويب. قم بالتسجيل لمزامنة الاشتراكات عبر الأجهزة.

دليل مرجعي سريع